Y coronafeirws: Nid ydym wedi cyrraedd y lan eto

Cyhoeddwyd 27/07/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/07/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 14 Gorffennaf, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai cyfyngiadau’r coronafeirws yn cael eu llacio yng Nghymru er gwaethaf y ffaith bod achosion ar gynnydd. Ond ni fydd 'diwrnod rhyddid' fel yr hyn a welwyd yn Lloegr; yn hytrach, defnyddir dull mwy gofalus o gyflwyno cyfyngiadau lefel rhybudd 0.

Bydd y cylch adolygu nesaf yn dechrau ar 7 Awst, pan fydd Llywodraeth Cymru yn bwriadu dod â'r rhan fwyaf o reolau coronafeirws Cymru i ben.

Mae'r erthygl hon yn trafod y risgiau sy'n gysylltiedig â niferoedd uchel o heintiadau, a pham mae Llywodraeth Cymru yn llacio cyfyngiadau ar adeg pan fydd cyfraddau heintio yng Nghymru yn parhau i fod yn uchel.

Pandemig y coronafeirws - y drydedd don

Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cyfarfod Llawn ei bod yn gyfnod o “gryn ansicrwydd a chymhlethdod”.

Mae ein dangosfwrdd ystadegau COVID-19 yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd yn dangos bod achosion COVID yng Nghymru yn cynyddu i lefelau 10 gwaith yn uwch na'r lefelau a welwyd ddechrau mis Mai, ynghyd â chynnydd bach mewn derbyniadau i'r ysbyty. Mae’r Prif Weinidog wedi bod yn glir bod “graddau'r lledaeniad yn y gymuned yn creu cyfres o beryglon gwirioneddol”.

Mae pedair prif risg yn gysylltiedig â niferoedd uchel yn dal y feirws:

  • Cynnydd yn nifer y derbyniadau i’r ysbytai a nifer y marwolaethau: Mae cyfraddau heintio uchel yn cynyddu'r risg y bydd y feirws yn atgyfodi mewn ysbytai, cartrefi gofal a lleoliadau caeedig eraill. Mae nifer y bobl dros 40 oed sydd wedi cael eu brechu yn uchel, ac mae’n ymddangos bod brechu yn gwanhau'r cysylltiad rhwng trosglwyddo cymunedol a niwed. Ond nid yw'n rhoi amddiffyniad llwyr.
  • Amrywiolion newydd: Mae cyfraddau heintio uchel hefyd yn cynyddu'r risg y bydd amrywiolion newydd yn ymddangos a allai wrthsefyll y brechlyn. Gall teithio rhyngwladol hefyd fod yn ffordd i amrywiolion newydd ddod i'r DU neu adael y DU.
  • COVID hir: Mae cyfraddau uwch hefyd yn debygol o arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy'n dioddef o effeithiau tymor hir y feirws - sef 'COVID hir'. Mae nifer sylweddol o bobl sydd wedi cael COVID yn dioddef symptomau parhaus, gan gynnwys poen yn y frest a diffyg anadl, blinder a niwlogrwydd m
  • Absenoldebau ymhlith y gweithlu: Wrth i achosion gynyddu, mae potensial y bydd gwasanaethau critigol, fel y GIG a gofal cymdeithasol, yn wynebu pwysau ychwanegol yn sgil absenoldebau cynyddol ymhlith y gweithlu. Rhaid i bobl sydd wedi dod i gysylltiad â rhywun sy’n profi'n bositif am COVID-19 hunanynysu am 10 diwrnod. Mae'r 'ping-demic', fel y'i gelwir, hefyd wedi gorfodi siopau a thafarndai i gau yn ddiweddar oherwydd prinder staff ar ôl i bobl gael 'ping' gan ap Covid-19 y GIG.

Mae cyfraddau heintio uchel hefyd yn rhoi mwy o straen ar systemau profi, olrhain cysylltiadau a gwasanaethau dilyniannu genomig, sy’n ei gwneud yn anoddach canfod amrywiolion newydd.

Er gwaethaf y risgiau hyn, gwnaeth Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, gefnogi cyfeiriad Llywodraeth Cymru o ran llacio cyfyngiadau; sef newid o ddeddfwriaeth i ganllawiau.

Mae'r Prif Swyddog Meddygol wedi dweud bod llacio’r cyfyngiadau ym misoedd yr haf, pan fydd y tywydd yn gynnes ac yn sych a bydd mwy o bobl yn gallu cwrdd yn yr awyr agored, yn fwy 'ffafriol' na’u llacio yn ystod misoedd yr hydref/gaeaf.

Ochr yn ochr â lefelau imiwnedd uwch oherwydd y rhaglen frechu, mae gwyliau ysgolion ac addysg uwch yn creu bylchau naturiol mewn cadwyni trosglwyddo.

Cyflwyno’r rhaglen frechu

Yn wahanol i donnau blaenorol y pandemig, mae llai o dderbyniadau i’r ysbyty a llai o farwolaethau, er gwaethaf y cynnydd newydd yn nifer yr achosion. Mae ystadegau yng nghyngor diweddaraf y Grŵp Cyngor Technegol (15 Gorffennaf) yn dangos bod cyfnodau yn yr ysbyty wedi gostwng oddeutu 80 y cant a bod marwolaethau wedi gostwng oddeutu 94 y cant (o fis Rhagfyr 2020).

Mae'r Prif Weinidog wedi priodoli’r gostyngiadau hyn i effeithiolrwydd brechlynnau wrth atal clefydau difrifol. Dywedodd:

…mae brechu, ac yn enwedig ein cyfraddau brechu uchel yng Nghymru, yn newid ein perthynas â'r feirws, ac yn gwneud hynny'n gyflymach nag unrhyw wlad arall yn y DU. Heddiw, mae mwy na 73 y cant o holl oedolion Cymru wedi cael dau ddos o'r brechlyn.

[…] Nid yw'r cynnydd yn nifer yr achosion wedi trosi'n gyfraddau uwch o salwch difrifol, derbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau yn yr un modd ag y gwelsom yn ystod y don gyntaf neu yn y gaeaf, a hynny oherwydd y brechlyn.

Mae cyngor y Grŵp Cyngor Technegol yn nodi: “Infection rates for double vaccinated under-65s are 3 times lower than in unvaccinated under-65s, demonstrating the impact of the vaccination roll out.”

Mae'r rhaglen frechu yn parhau i fod yn effeithiol hyd yn hyn. Ond mae gwyddonwyr yn wyliadwrus o hyd, a hynny am fod ansicrwydd mawr ynghylch i ba raddau y bydd nifer y derbyniadau i'r ysbyty yn cynyddu eto ar ôl i’r cyfyngiadau gael eu codi. Mae'n dibynnu ar ffactorau amhosibl eu gwybod megis sut y bydd ymddygiadau'n newid, ac a fydd amrywiolion sy'n gwrthsefyll y brechlyn yn ymddangos.

Hefyd, mae'n ymddangos bod cyfraddau brechu yn arafu ymhlith pobl 18-40 oed, ac mae'n werth cofio, yn sgil cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), na fydd plant o dan 18 oed yn cael eu brechu.

Mae’r JCVI wedi cyhoeddi cyngor dros dro ar gynllunio brechlynnau atgyfnerthu COVID-19 o fis Medi 2021. Gwneir hyn er mwyn ymestyn effaith amddiffynnol y brechlyn cyn y gaeaf yn y rhai sydd fwyaf agored i effeithiau difrifol COVID-19. Gallai’r brechiadau hyn ddigwydd ochr yn ochr â'r rhaglen frechu flynyddol rhag y ffliw.

Modelu

Yn ôl gwaith modelu gan Brifysgol Abertawe, ni ddisgwylir i drydedd don y pandemig gyrraedd ei brig tan ddiwedd mis Awst, neu efallai ddechrau mis Medi. Yn ôl senarios eraill (megis model Warwick/JUNIPER) mae’n bosibl y gwelir brig diweddarach, ar ddechrau 2022.

Wrth gymharu modelau’r senarios, mae Grŵp Cyngor Technegol Cymru wedi dweud ei bod yn debygol y bydd nifer y cleifion sy’n ddifrifol wael oherwydd COVID yn llai na’r hyn a welwyd mewn tonnau blaenorol, ac fel hynny y bydd hi’n parhau. Mae'r brig ar gyfer derbyniadau i'r ysbyty yn debygol o fod llawer yn is na’r brig a welwyd ym mis Ionawr 2021. Ond ni ellir diystyru ton ar raddfa debyg neu ar raddfa fwy.

Dyna pam mae Gweinidogion Cymru yn aros ar eu gwyliadwriaeth.

Cynllun rheoli’r coronafeirws

Cyhoeddwyd cynllun rheoli’r coronafeirws wedi'i ddiweddaru ar 14 Gorffennaf, gan ddisgrifio sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu symud o lefel rhybudd 1 i lefel rhybudd 0 newydd ar 7 Awst os yw'r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn caniatáu.

Ni fydd terfynau cyfreithiol ar nifer y bobl sy’n gallu cwrdd, gan gynnwys mewn cartrefi preifat, lleoedd cyhoeddus na mewn digwyddiadau, a bydd pob busnes ac adeilad ar agor.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru am i bobl barhau i weithio gartref lle bo hynny'n bosibl. Bydd gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol ac ym mhob man cyhoeddus dan do (ac eithrio lleoliadau addysg a lletygarwch).

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai ei bwriad ym Awst yw cael gwared ar y gofyniad i bobl sydd wedi cael eu brechu'n llawn hunanynysu os ydyn nhw wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael prawf positif (nid oes dyddiad penodol eto). Mae hefyd yn trafod a oes angen mesurau ychwanegol yn y GIG a gwasanaethau critigol eraill er mwyn lliniaru effaith unrhyw gynnydd pellach yn nifer y staff rheng flaen a allai fod angen hunanynysu.

Am y tro, mae Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi cyhoeddi datganiad lle mae’n egluro ei bod yn hanfodol i bawb hunanynysu os ydynt yn cael cyfarwyddyd gan swyddog olrhain cysylltiadau neu gan ap COVID-19 i wneud hynny.

Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu

Mae'r Prif Weinidog wedi nodi’n glir nad yw’r coronafeirws wedi diflannu:

Ni waeth beth fydd yn digwydd dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, bydd y mesurau syml sydd wedi helpu i gadw pob un ohonom yn ddiogel drwy gydol y pandemig yn parhau i ddiogelu pob un ohonom: cadw pellter, cyfarfod yn yr awyr agored, bod mewn mannau sydd wedi'u hawyru'n dda, osgoi mannau gorlawn lle bo modd a gwisgo gorchudd wyneb pan nad oes modd gwneud hynny, a hylendid dwylo da.

O ddilyn y camau syml hyn, fe allwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd i gadw'r coronafeirws dan reolaeth ac atal y drydedd don yma rhag codi'n rhy uchel.

[…] mae'n rhaid inni obeithio y bydd y brechlyn yn parhau i fod yn effeithiol.


Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru